Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 | ||||
---|---|---|---|---|
Beicio Mynydd | ||||
Traws-gwlad | dynion | merched | ||
BMX | ||||
BMX | dynion | merched | ||
Seiclo Ffordd | ||||
Ras ffordd | dynion | merched | ||
Treial amser | dynion | merched | ||
Seiclo Trac | ||||
Pursuit tîm | dynion | merched | ||
Sbrint | dynion | merched | ||
Sbrint tîm | dynion | merched | ||
Ras bwyntiau | dynion | merched | ||
Keirin | dynion | merched | ||
Omnium | dynion | merched |
Cynhaliwyd cystadalethau Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 rhwng 28 Gorffennaf a 12 Awst dros bump lleoliad, gan gynnwys London Velopark (trac a BMX),[1] a Hadleigh Farm, Essex (beicio mynydd).[2] Cynhaliwyd y ras ffordd dros gwrs a ddechreuodd a gorffennodd ar y Mall,[3] gan deithio allan o Lundain i Surrey; cynhaliwyd y treial amser yn Hampton Court Palace.
Roedd 18 cystadleuaeth gyda 500 o chwaraewyr yn cymryd rhan.
Bu nifer o newidiadau i'r rhaglen seiclo trac i gymharu a'r seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008. Cafwyd wared ar y pursuit unigol a'r ras bwyntiau, a'r Madison. Ychwanegwyd sbrint tîm, pursuit tîm a keirin i raglen y merched, tra bod yr Omnium yn cael ei gynnal ar gyfer dynion a merched.[4]