Seioniaeth

Mewn termau cyffredinol, gellid diffinio Seioniaeth fel dyhead i weld yr Iddewon yn dychwelyd i Balesteina. Fe ddechreuodd y syniad fel un crefyddol ymhlith rhai Protestaniaid pietistaidd tua diwedd y 16g. a Phiwritaniaid yng ngwledydd Prydain a gogledd America yn y 17g. Roedd y Cristnogion hyn am weld yr Iddewon yn dychwelyd i'r Wlad Sanctaidd, ac i Jerwsalem yn benodol, er mwyn iddynt gyflawni proffwydoliaethau yn y Testament Newydd y byddent yn dychwelyd a derbyn Iesu Grist fel Meseia cyn ailddyfodiad Iesu Grist i'r ddaear ar y Dydd Diwethaf. Yn ystod y 19g. fe ddatblygodd y Seioniaeth Gristnogol hon wedd wleidyddol a fyddai'n cefnogi amcanion a pholisïau Seioniaeth Iddewig hyd nes creu'r wladwriaeth Iddewig ac ar ôl hynny i'w chynnal.[1] [2]

Mudiad ethno-ddiwylliannol cenedlaetholgar gyda'r nod gwleidyddol o greu a chynnal gwladwriaeth i'r Iddewon ym Mhalesteina yw Seioniaeth Iddewig. Er bod Palesteina (Gwlad Israel yn y traddodiad Iddewig) a Jerwsalem yn benodol â lle arbennig yn y grefydd Iddewig, a bod rhai Iddewon unigol a grwpiau bach wedi symud i fyw yno am resymau crefyddol dros y canrifoedd, ni fu galw cyffredinol ar i'r Iddewon fel grŵp ymadael â'u cymunedau ar wasgar i symud i Balesteina i fyw. Yn wir, roedd llawer o Iddewon crefyddol (ac mae rhai o hyd) yn gweld yr ymdrech ddynol i brysuro dyfodiad y Meseia drwy ymfudo i Balesteina yn beth rhyfygus.[3]

Stories of Child Life in a Jewish Colony in Palestine. G. Routledge & sons. 1920 gan Hannah Barnett-Trager (1870–1943)

Mae pleidwyr Seioniaeth yn ei hystyried yn fudiad rhyddid cenedlaethol gwrthymerodraethol sy'n ailsefydlu'r genedl Iddewig yn ei chartref hanesyddol. Mae eraill yn ei gweld yn gyfuniad o genedlaetholdeb ethnig a threfedigaethedd gwladychol. Yn wahanol i drefedigaethedd clasurol lle bydd grym ymerodraethol yn meddiannu tir gwlad arall yn bennaf er mwyn ysbeilio ei adnoddau naturiol a dynol er budd y famwlad, mae trefedigaethedd gwladychol yn broses lle bydd aelodau o un genedl neu grŵp ethnig yn ymfudo i wlad arall er mwyn creu cymdeithas newydd drwy ddisodli'r gymdeithas sydd eisoes yn byw yno. Yn achos Seioniaeth, fe wnaed hynny ym Mhalesteina gyda chymorth yr Ymerodraeth Brydeinig yn y lle cyntaf ac Unol Daleithiau America ar ôl yr Ail Ryfel Byd.[4] Ond dadl y Seionwyr yw nad oes modd i'r Iddewon fod yn drefedigaethwyr yn Ngwlad Israel am mai dyna yw eu cartref hanesyddol.

Datblygodd y mudiad yn Ewrop yn y 19g. mewn ymateb i ddau beth. Gwrthsemitiaeth yng nghanol a dwyrain Ewrop, ar ffurf pogromau a chamwahaniaethu, yn sgil twf cenedlaetholdeb ethnig a'r galw am greu cenedl-wladwriaethau ar y naill law. Ac ar y llaw arall, y tuedd cynyddol i Iddewon gorllewin Ewrop gael eu cymhathu i ddiwylliant y gwledydd lle roeddent yn byw. O dan ddylanwad syniadau'r Oleuedigaeth cymerwyd camau i ddileu'r rhwystrau cyfreithiol yn erbyn gadael i'r Iddewon gyfranogi'n llawn o fywyd cenedlaethol y gwledydd hynny. Hynny yw, rhyddfreiniad yr Iddewon. Gan fod Iddewon yn Ewrop yn gymunedau bach oedd yn byw ymhlith pobloedd neu genhedloedd mwy, roeddent yn agored i erledigaeth ar y naill law a chymhathiad ar y llaw arall. O dan ddylanwad cenedlaetholdeb ethnig Ewropeaidd, dechreuodd y proto-Seionwyr synied am yr Iddewon fel cenedl neu hil yn hytrach na chymuned grefyddol. Y gobaith oedd y byddai gwladwriaeth Iddewig yn hafan i'r genedl Iddewig iddi ddianc rhag erledigaeth ac yn fan lle gallai'r genedl feithrin bywyd Iddewig llawn heb orfod cymhathu i gymdeithas an-Iddewig. Un o hanfodion y wladwriaeth arfaethedig oedd bod yr Iddewon, fel cenedl, yn fwyafrif ynddi. Y broblem i'r Seionwyr o'r dechrau'n deg oedd bod pobl eraill mwy niferus, nad ydynt yn Iddewon, eisoes yn byw ym Mhalesteina.[5]

Theodor Herzl, sylfaenydd y mudiad Seionaidd. Yn ei bamffled Der Judenstaat (1896), dadleuodd dros sefydlu gwladwriaeth Iddewig annibynnol yn ystod yr 20g.

Crynhowyd rhan o weledigaeth wleidyddol Seioniaeth gan Theodor Herzl yn ei bamffled dylanwadol, Der Judenstaat ("Y Wladwriaeth Iddewig"), 1896 a'i nofel ddyfodolaidd, Altneuland ("Hen Wlad Newydd"), 1902 a gyfieithwyd i'r Iddeweg a'r Hebraeg fel Tel Aviv ("Bryn y Gwanwyn"), sef yr enw a roddwyd ar y ddinas newydd a sefydlwyd gan y gymuned Iddewig ym Mhalesteina ym 1909.[6]

Sefydlwyd y mudiad Seionaidd yn ffurfiol yn Awst 1897 yn y Gyngres Seionaidd Ryngwladol gyntaf yn Basel yn y Swistir. Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal y Gyngres ym München, ond cymaint oedd y gwrthwynebiad cyhoeddus gan Iddewon Uniongred a Diwygiedig fel ei gilydd yn yr Almaen, fel y bu'n rhaid i Herzl ei haildrefnu yn Basel.[7]

Yn ystod degawd cyntaf y mudiad Seionaidd, roedd rhai Seionwyr, gan gynnwys Herzl ei hun, yn barod i ystyried lleoliadau eraill heblaw Palesteina fel cartrefwlad (dros dro) i'r Iddewon megis "Cynllun Uganda" (yn nwyrain Affrica), yr Ariannin, Cyprus, Mesopotamia, Mozambique, neu benrhyn Sinai, ond yn y pen draw gwrthododd y mudiad y cynigion hyn a phenderfynu o blaid Palesteina.

Hyd yn oed cyn sefydlu'r mudiad Seionaidd fel y cyfryw, bu rhai grwpiau o Iddewon yn ymfudo i Balesteina gyda'r bwriad o sefydlu gwladychfeydd amaethyddol yno. Un o'r grwpiau cyntaf oedd grŵp o'r enw Bilw yr oedd ei bencadlys yn Kharkiv, a oedd o fewn ffiniau Ymerodraeth Rwsia ar y pryd ond sydd bellach yn Wcráin. Yn 1882, ymfudodd grẃp bach o aelodau Bilw i Balesteina Otomanaidd heb ganiatâd yr awdurdodau Otomanaidd.[8] Roedd yr awdurdodau wedi ceisio cyfyngu ar werthu tir i Iddewon a chyfyngu ar fewnfudo yn sgil gwrthwynebiad gan y Palestiniaid oedd eisoes yn byw yno. Yn 1882, dim ond 4% o boblogaeth Palesteina oedd yn Iddewon. O ddeall nad oedd croeso iddynt, aeth y rhan fwyaf o'r aelodau o Bilw yn ôl i Rwsia, ond arhosodd 14 o fyfyrwyr ifainc. Aethant i'r ysgol amaeth ym Mikveh Israel ond ni chawsant groeso gan y gymuned Iddewig Uniongred o'r Hen Yishuv (y gymuned Iddewig oedd eisoes yno) ac felly fe adawsant ac ymaelodi â Chofefei Tzion a helpu i sefydlu'r cwmni amaethyddol cydweithredol yn Rishon LeZion. Gweithredwyd nifer o egwyddorion Seioniaeth gan fudiadau fel Chofefei Tzion a sefydlodd wladychfeydd Iddewig ym Mhalesteina ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g.

Bu i ddilynwyr Seioniaeth sefydlu gwladychfeydd Iddewig yn ystod cyfnod yr Ymerodraeth Otomanaidd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf gan greu yr hyn a alwyd yn Yishuv, sef y gymuned Iddewig, Hebraeg ei hiaith ar dir lle roedd mwyafrif llethol y boblogaeth yn Balestiniaid Arabeg eu hiaith. Parhaodd twf y gwladychfeydd Iddewig ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ystod cyfnod Palesteina dan Fandad Prydeinig. Erbyn 1945, roedd 30% o boblogaeth Palesteina yn Iddewon.

Yn sgil sefydlu Gwladwriaeth Israel yn 1948, fe ddaeth Seioniaeth yn ideoleg genedlaethol y wladwriaeth.

  1. Donahaye, Jasmine (2012). Whose People? Wales, Israel, Palestine. Cardiff: University of Wales Press. t. 39. ISBN 978-0-7083-2483-7.
  2. Pappe, Ilan (2024). Lobbying for Israel on Both Sides of the Atlantic. London: Oneworld. tt. 1–3. ISBN 978-0-86154-402-8.
  3. Sand, Shlomo (2014). The Invention of the Land of Israel. London: Verso. tt. 181. ISBN 9781781680834.
  4. Enzo, Traverso (2016). The End of Jewish Modernity. London: Pluto. t. 99.
  5. Traverso, Enzo (2016). The End iof Jewish Modernity. London: Pluto Press. tt. 98-112. ISBN 978-0-7453-3666-4.
  6. "From Spring Hill to Tel Aviv". Jewish Virtual Library. Cyrchwyd 20/09/2024. Check date values in: |access-date= (help)
  7. Sand, Shlomo (2014). The Invention of the Land of Israel. London: Verso. tt. 187. ISBN 9781781680834.
  8. Pappe, Ilan (2024). Lobbying for Zionism on Both Sides of the Atlantic. Oneworld. t. 15.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne