Math | pentrefan |
---|---|
Ardal weinyddol | Pointon and Sempringham |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Lincoln (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.8852°N 0.3412°W |
Cod OS | TF117332 |
Pentref yn Swydd Lincoln, yn agos i Bourne, yw Sempringham. Erbyn heddiw mae eglwys, tŷ a ffynnon, sy'n cynnig dim cliwiau am yr hanes sydd ynghlwm a ffiniau'r blwyf. Mae'r rhan fwyaf o'r tai wedi eu gwasgaru o fewn milltir o'r eglwys ar y ffordd B1177, rhwng Pointon a Billingborough. Mae'r eglwys yn sefyll ar dir uwch na gweddill yr ardal, ar uchder o tua 16 medr, yng nghanol cordir gwastad. Mae ym mhlwyf Pointon a Sempringham, y prif dref yw Pointon. Mae'r plwyf hefyd yn cynnwys, Millthorpe a chorsydd Pointon, Neslam ac Aslackby a rhan o Hundred Fen yn Gosberton Clough. Roedd Birthorpe yn rhan o blwyf Sempringham gynt ond erbyn hyn mae'n ran o Billingborough.
Dyma oedd lleoliad Priordy Santes Fair, priordy Abaty Peterborough a sefydlwyd gan Sant Gilbert (adnabyddwyd hefyd fel Gilbert o Sempringham); daeth yn gartref gorfodol Gwenllian o Gymru, merch Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ac unig wyres Simon de Montfort. Ganwyd Gwenllian yn y cartref brenhinol yn Aber (Garth Celyn, o bosibl) ar arfordir ogleddol Gwynedd, o gwmpas 19 Mehefin 1282; hi felly oedd gwir Dywysoges olaf Cymru, ac yn beryg i arweinyddiaeth Edward I. Bu farw ei mam Eleanor de Montfort, tra'n rhoi genedigaeth.
Yn 1282, roedd Edward I, brenin Lloegr wedi symyd byddin enfawr i Ogledd Cymru. Ar 11 Rhagfyr 1282, denwyd tad Gwenllian, y Tywysog Llywelyn i drap, a lladdwyd ef.[1] Yn 1283, cipwyd Gwenllian a'i chefndryd gan filwyr Edward. Anfonodd Edward Gwenllian 'yn ei chrud', i gael ei dal mewn caethiwed, gan yr ymddangosai na allai ddod a'i hun i'w lladd.
Yn 1327, arhosodd Edward III yn y prordy gan roddi pensiwn i Gwenllian o £20 am weddill ei hoes, a oedd ei angen er mwyn gallu talu am ei lloches yn y lleiandy, fel gwestai talu ond nid oedd hawl ganndi i adael y priordy. Bu farw Gwenllian yn y Priordy ar ôl cael ei dal yn o am 54 mlynedd, ar 7 Gorffennaf 1337.
Yn dilyn diddymiad y Mynachlogydd, daeth Priordy Sempringham i berchnogaeth y Clintons, a ddymchwelodd yr adeilad ac ailddefnyddio'r cerrig i adeladu tŷ ar y safle, ychydig iawn o'r ddau strwythr sy'n weddillheddiw.
Yn gynnar yn yr 17eg ganrif, roedd Sempringham yn ganolfan y symudiad Piwritanaidd yn Swydd Lincoln. Hwyliodd Samuel Skelton, offeiriad Sempringham ar y pryd, i Fae Massachusetts Bay yn 1628 gyda'r grŵp cyntaf o'r gwladychwyr Piwritanaidd a laniodd yn Salem. Aelod arall o gynulliad yr eglwys ar y pryd oedd Anne Dudley, yn ddiweddarach Anne Bradstreet, bardd cyhoeddedig cyntaf y wladfa.