Senedd yr Alban

Senedd yr Alban
"Scottish Parliament"

"Pàrlamaid na h-Alba"

"Scots Pairlament"
gohiriwyd
Arfbais Senedd yr Alban
Gwybodaeth gyffredinol
SefydlwydMai 12, 1999 (1999-05-12)
MathUnsiambraeth
Arweinyddiaeth
LlywyddAlison Johnstone ACA
ers 13 Mai 2021
Cyfansoddiad
Aelodau129
Scottish-parliament.svg
Grwpiau gwleidyddolLlywodraeth
  •      SNP (64)

Yr Wrthblaid

Rheolaeth

  •      Llywydd (1)
Etholiadau
System bleidleisioSystem Aelodaeth Ychwanegol
Etholiad diwethaf6 Mai 2021
Etholiad nesaf7 Mai 2026
Man cyfarfod
Siambr y Senedd
Adeilad Senedd yr Alban, Holyrood, Caeredin
Gwefan
www.parliament.scot

Senedd yr Alban yw corff deddfwriaethol datganoledig yr Alban. Fe'i lleolir yn Holyrood, sy'n rhan o Gaeredin a chaiff ei galw'n answyddogol, ar adegau, yn 'Holyrood'[1]. Mae gan Senedd yr Alban y grym i greu deddfau ar gyfer yr Alban a chodi neu newid trethi. Yn groes i gamdybiaeth gyffredinol, dydy'r Senedd ddim yn gorff 'newydd' gan ei bod yn deillio yn ôl i'r Oesoedd Canol. Mae hi'n gorff democrataidd sydd â 129 Aelodau Senedd yr Alban (Members of the Scottish Parliament (MSPs)) ac sy'n cael eu hethol am gyfnod o bedair mlynedd. Defnyddir y system etholiad cynrychioliadol yma, gyda 73 ASA yn dod o etholaethau daearyddol ("cyntaf i'r felin") a 56 yn cael eu hethol o wyth 'Rhanbarth Aelodau Ychwanegol' gyda phob Rhanbarth yn ethol saith ASA.

Roedd etholiad diwethaf y Senedd ar 5 Mai 2011. Dyma'r tro cyntaf y cafwyd llywodraeth fwyafrifol yn Holyrood. Enillodd yr SNP 69 o seddau.

Yn refferendwm 1997 pleidleisiodd pobl yr Alban dros ddatganoli a ffurfiwyd y Senedd bresennol drwy Ddeddf yr Alban 1998, sy'n rhestru pwerau Deddfau Datganoledig h.y. mae'n rhestru'r pwerau hynny a gedwir gan Senedd y Deyrnas Unedig (San Steffan).[2] Mae'r materion hynny nad ydynt yn cael eu rhestru yn gyfrifoldeb i Senedd yr Alban. Mae senedd y Deyrnas Unedig hefyd wedi cadw'r hawl i newid y rhestr, er mwyn ymestyn neu leihau pŵer y Senedd, fel y dymunont.[3]

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Llywodraeth ar 12 Mai 1999.[4]

  1. "Scottish Parliament Word Bank"; 14-11-1999
  2. "Scotland Act 1998: Scottish Parliament Reserved Issues"; cyhoeddwyd gan "Office of Public Sector Information (OPSI)"; 14-11-2006
  3. Murkens, Jones & Keating (2002) pp11
  4. ""Scottish Parliament Official Report"; 12 Mai 1999; cyhoeddwyd gan Lywodraeth yr Alban 05-11-2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-26. Cyrchwyd 2010-06-02.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne