Sergio Mattarella | |
| |
12fed Arlywydd yr Eidal
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 31 Ionawr 2015 | |
Rhagflaenydd | Giorgio Napolitano |
---|---|
Geni | 23 Gorffennaf 1941 Palermo, Sisili |
Plaid wleidyddol | Partito Democratico |
Priod | Marisa Chiazzese († 2012) [1] |
Sergio Mattarella (
[ˈsɛrdʒo mattaˈrɛlla]) (ganwyd 23 Gorffennaf 1941) yw Arlywydd yr Eidal ers 31 Ionawr 2015; mae hefyd yn Llywydd-etholedig a barnwr. Bu'n aelod o Lywodraeth yr Eidal rhwng 1983 a 2008, gan wasanaethu fel Gweinidog Addysg y wlad rhwng 1989 a 1990 a Gweinidog Amddiffyn rhwng 1999 a 2001. Yr un flwyddyn, daeth yn farnwr yn Llys Cyfansoddiadol yr Eidal.[2]
Etholwyd ef yn Arlywydd ar 31 Ionawr 2015 gyda 665 o bleidleisiau allan o 1009 o bleidleiswyr. Bydd y llw ar 3 Chwefror 2015. Cafodd ei enw am y swydd hon ei gynnig gan y Prif Weinidog Matteo Renzi.[3] Mae'n olynnu Giorgio Napolitano a fu'n Arlywydd am gyfnod o naw mlynedd - y cyfnod hiraf yn hanes Arlywyddiaeth Gweriniaeth yr Eidal. Ei ddatganiad cyntaf fel Arlywydd oedd: "Hed fy meddyliau ar unwaith, ac yn arbennig, i broblemau a gobeithion ein cyd-ddinasyddion."[4]