Enghraifft o: | saig tatws |
---|---|
Math | side dish, bwyd hwylus, bwyd cyflym |
Deunydd | potato |
Rhan o | Bwyd Gwlad Belg, coginio Ffrainc |
Yn cynnwys | taten, olew llysiau, halen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae sglodion gelwir hefyd ar lafar wrth yr enw Saesneg gyda'r sillafiad Saesneg "chips" a hefyd yn yr orgraff Gymraeg tsips (er, anfynych gwelir hynny bellach) yn datws, wedi'u torri, yna'u ffrio wrth orchuddio'n llawn â rhyw fath o fraster neu olew. Yn Saesneg fe'i gelwir yn chips neu'n French fries - er tueddir meddwl am French fries fel sglodion tenheuach. Maent yn cael eu paratoi trwy dorri tatws yn stribedi gwastad, eu sychu, a'u ffrio. Fel arfer cânt eu ffrio mewn padell ffrio ddofn. Yn ystod y broses o wneud, cânt eu torri ymlaen llaw, eu blansio, a defnyddir tatws russet wedi'u rhewi yn aml i'w gwneud. Gellir pobi sglodion mewn popty hefyd er mwyn defnyddio llai o fraster.[1]
Caiff sglodion eu gweini'n boeth, naill ai'n feddal neu'n grensiog, ac yn gyffredinol cânt eu bwyta ar gyfer cinio, swper, neu fel byrbryd. Maent yn ymddangos yn gyffredin ar fwydlenni bwytai, bwytai bwyd cyflym, tafarndai a bariau, ac, wrth reswm, Siop Sgod a Sglods
Bydd pobl yn aml yn ychwanegu halen arnynt, ac weithiau'n eu trochi mewn sos coch, finegr, mayonnaise, sôs cyrri, neu gydfwydydd eraill. Weithiau gorchuddir y sglodion â bwyd arall megis yn Quebec, poutine (caws ceulaidd a grefi) a/neu chili con carne. Weithiau gwneir sglodion o datws melys, yn lle tatws. Pan gaiff ei bobi mewn popty, ychydig o olew neu ddim olew, yn cael ei ddefnyddio.