Enghraifft o: | proses ddaearegol ![]() |
---|---|
Math | sgrafelliad ![]() |
Crafiad mecanyddol yw sgrafelliad sy'n digwydd pan fo un graig yn crafu wyneb craig arall. Mae'r creigiau, neu'r tameidiau mân o gerrig yn naddu'r wyneb wrth iddynt gael eu symud gan y gwynt, rhewlif, tonnau, disgyrchiant erydiad neu ddŵr rhedegog. Mae ffrithiant yn rhan o'r broses hon o sgrafellu, drwy rwbio yn erbyn darnau rhydd neu wan oochr y graig gan achosi i rannau ohono ddod yn rhydd.
Mae cryfder y sgrafellu'n dibynnu ar galedwch y creigiau, y dwysedd, y cyflymder a más y creigiau sy'n symud.