Shane Warne | |
---|---|
![]() Shane Warne yn bowlio i'r Rajasthan Royals, yn erbyn Middlesex, mewn gornest elusennol ym maes Lord's yn 2009 | |
Ganwyd | 13 Medi 1969 ![]() Upper Ferntree Gully ![]() |
Bu farw | 4 Mawrth 2022 ![]() o trawiad ar y galon ![]() Samui ![]() |
Dinasyddiaeth | Awstralia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr, chwaraewr pocer ![]() |
Taldra | 183 centimetr ![]() |
Partner | Elizabeth Hurley ![]() |
Gwobr/au | Cricedwr y Flwyddyn, Wisden, Swyddogion Urdd Awstralia ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Victoria cricket team, Hampshire County Cricket Club, Rajasthan Royals, Melbourne Stars, Tîm criced cenedlaethol Awstralia ![]() |
Safle | bowler ![]() |
Gwlad chwaraeon | Awstralia ![]() |
Cricedwr o Awstralia oedd Shane Keith Warne (13 Medi 1969 – 4 Mawrth 2022) sydd yn nodedig fel un o'r bowlwyr gwychaf yn hanes y gêm. Efe oedd y bowliwr cyntaf i gipio 700 o wicedi mewn gornestau prawf. Cafodd ei enwi yn un o bum cricedwyr yr 20g gan almanac Wisden yn 2000.
Ganed ef ym maestref Ferntree Gully ar gyrion Melbourne, yn nhalaith Victoria, Awstralia. Chwaraeodd mewn dim ond saith gornest i dîm Victoria yn y Sheffield Shield, cystadleuaeth criced uchaf Awstralia, cyn iddo gael ei ddewis i'r tîm cenedlaethol. Chwaraeodd yn ei ornest brawf gyntaf yn erbyn India ym 1992. Yng Nghyfres y Lludw ym 1993, yn erbyn tîm cenedlaethol Lloegr, fe gipiodd 34 o wicedi mewn chwe phrawf, gyda chyfartaledd bowlio o 25.79. Yn y gystadleuaeth honno, bowliodd Warne dafliad enwocaf ei yrfa: esiampl wych o droellfowlio chwith, gan bitsio ar stwmp y goes a tharo stwmp chwith Mike Gatting, tafliad a elwir "Pelen y Ganrif".[1] Yng Nghyfres y Lludw nesaf, ym 1994–95, cipiodd Warne 27 o wicedi gyda chyfartaledd o 20.33.
Ym 1994, derbyniodd Warne a'i gyd-chwaraewr Mark Waugh arian oddi wrth fwci o India, yn dâl am wybodaeth am feysydd criced a rhagolygon y tywydd ar gyfer gornestau. Cafodd y ddau ohonynt eu dirwyo, yn gyfrinachol, gan Fwrdd Criced Awstralia am dderbyn llwgrwobrwyon. Daeth yr achos i sylw'r cyhoedd ym 1998, un o sawl sgandal betio ym myd criced yn y 1990au. Ymunodd â chlwb Hampshire yn Lloegr yn 2000, a chwaraeodd iddynt nes 2007, pryd gadawodd dîm Victoria hefyd. Yn Chwefror 2003, cafodd ei droi allan o Gwpan y Byd yn Ne Affrica wedi iddo brofi'n bositif am gyffur diwretig gwaharddedig; fe'i gwaharddwyd rhag chwarae am 12 mis am hynny. Yn ei ornest brawf gyntaf wedi iddo ddychwelyd i'r gêm, ym Mawrth 2004, cipiodd ei 500fed wiced, yr ail fowliwr erioed i wneud hynny. Yn 2006, ym Maes Criced Melbourne, daeth yn y bowliwr cyntaf i gipio 700 o wicedi mewn criced prawf, a byddai'n dal y record am y nifer uchaf, 708, nes i Muttiah Muralitharan gipio'r record yn 2007.[2]
Ymddeolodd o griced prawf yn 2007, ond parhaodd i gystadlu ar lefel y clybiau hyd at 2013. Chwaraeodd i'r Rajasthan Royals yn Uwch Gynghrair India o 2008 i 2011, a'r Melbourne Stars yn y Big Bash, cynghrair T20 yn Awstralia, o 2011 i 2013. Bu'n gricedwr hynod o boblogaidd, am ei bersonoliaeth hamddenol yn ogystal â'i fedrau ar y maes.[3] Bu farw Shane Warne yn Ko Samui, Gwlad Tai, o drawiad ar y galon yn 52 oed.[4]