![]() | |
Enghraifft o: | ysgol Bwdhaeth ![]() |
---|---|
Math | Heian Buddhism ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 9 g ![]() |
Sylfaenydd | Kūkai ![]() |
Pencadlys | Shingon sect eighteen Motoyama ![]() |
Enw brodorol | 真言宗 ![]() |
Gwladwriaeth | Japan ![]() |
![]() |
Enwad Japaneaidd sy'n cyfuno Bwdhaeth gyfriniol ag elfennau o Shintō, crefydd genedlaethol Japan, ynghyd â phwyslais pantheistiaidd, yw Shingon (眞言, 真言, "Y Gair/Geiriau Cywir"). Gyda Bwdhaeth Tibet, mae'n ffurfio un o ddwy gangen fawr Bwdhaeth Vajrayana.
Cafodd ei sefydlu yn 816 gan yr athronydd a llenor Kūkai (774 - 835). Roedd Kūkai yn un o brif ffigyrau bywyd ymenyddol y cyfnod Heian a'r Siapanwr cyntaf i ysgrifennu Tsieineeg lenyddol o safon uchel, ffrwyth ei daith i Tsiena rhwng 804 ac 806. Ar ôl dychwelyd i Japan cododd fynachlog ar fynydd Kōyasan, tua 50 milltir i'r de o Heian Kyo (Kyoto heddiw) yn 816. Heddiw mae Kōyasan yn ganolfan grefyddol fawr sy'n denu pererinion ac ymwelwyr o bob cwrdd o'r wlad a'r tu hwnt i brofi'r lletygarwch arbennig a geir yn y mynachlogydd Shingon niferus a geir yno.