Siarter

Esiampl o siarter, sef y Magna Carta.

Rhodd o awdurdod neu hawliau yw siarter, sy'n dynodi fod yr un sy'n ei roddi yn cydnabod yn swyddogol uchelfreintiau'r derbynnydd i ymarfer hawliau penodol. Mae'n ymhlyg fod yr un sy'n rhoddi'r siarter yn cadw ei hawliau rhagoriaeth (neu sofreniaeth), ac fod y derbynnydd yn cyfaddef statws is neu gyfyngedig yn y berthynas, dyma'r ystyr y rhoddwyd siarterau yn hanesyddol, ac mae'r ystyr hwnnw yn dal yn wir yn y defnydd cyfoes o'r gair. Gall siarter fod yn ddogfen syml sy'n rhoi caniatad brenhinol i ddechrau gwladwraeth, neu yn rhywbeth llawer mwy cymhleth.

Daeth y gair o'r Hen Ffrangeg chartre, ac yn wreiddiol o'r gair Lladin, carta, sef "papur".


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne