Murlun o Chwyldro Casnewydd (1839) | |
Enghraifft o: | mudiad gwleidyddol |
---|---|
Idioleg | radicaliaeth gwleidyddol |
Sylfaenydd | William Lovett |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Radicaliaeth a Phrotest | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Mudiad a fynnai weld gwellianau mewn amodau byw a hawliau dinesig gweithwyr cyffredin rhwng 1838 a 1858 oedd Siartiaeth neu Fudiad y Siartwyr. Roedd y mudiad yn weithgar yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ei sefydlu drwy 'Siarter y Bobl' a gyhoeddwyd ym Mai 1838.
Roedd yn ei anterth yn 1839, 1842, a 1848, a chyflwynwyd deiseb i Dŷ'r Cyffredin yn hawlio newid. Ar y cyfan, defnyddiwyd dulliau cwbl ddi-drais fel cyfarfodydd a deisebau. Yr ardaloedd mwyaf gweithgar oedd ardaloedd glo De Cymru, Gogledd Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Ardal y Crochendai yn Swydd Stafford a'r Black Country, sef bwrdeistrefi Dudley, Sandwell a Walsall.