Enghraifft o: | grwp crefyddol mawr, ffordd o fyw |
---|---|
Math | crefyddau India, crefydd undduwiol |
Rhan o | mudiad Bhakti |
Dechrau/Sefydlu | 1469 |
Rhagflaenwyd gan | Hindŵaeth |
Sylfaenydd | Guru Nanak |
Enw brodorol | ਸਿੱਖੀ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Crefydd un Duw yw Siciaeth neu Sikhaeth sydd yn seiliedig ar athrawiaeth y deg Guru a drigai yng ngogledd India yn yr 16g a'r 17g. Dyma bumed crefydd mwya'r byd gyda dros 30 miliwn o ddilynwyr. Adnabyddir y system hon o athroniaeth crefyddol fel Gurmat (a drosir fel 'doethineb y Gurū'). Yr unig ranbarth yn y byd gyda mwyafrif o'i boblogaeth yn Sikhiaid ydy Punjab, India.
Prif gysegrfan y Siciaid yw'r Deml Euraidd yn Amritsar, yn y Punjab.
Dau gredo sylfaenol Siciaeth yw :