Sidney Poitier | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 20 Chwefror 1927 ![]() Miami ![]() |
Bu farw | 6 Ionawr 2022 ![]() Los Angeles ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() |
Galwedigaeth | actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, diplomydd, hunangofiannydd, cynhyrchydd ffilm, llenor, awdur, actor teledu, actor llwyfan, actor, cyfarwyddwr theatr, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr ![]() |
Swydd | ambassador of the Bahamas, ambassador of the Bahamas ![]() |
Taldra | 1.89 metr ![]() |
Priod | Joanna Shimkus, Juanita Hardy ![]() |
Partner | Diahann Carroll ![]() |
Plant | Sydney Tamiia Poitier ![]() |
Gwobr/au | KBE, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Marian Anderson Award, Gwobr Henrietta, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Gwobr Grammy am yr Albwm Llafar Gorau, NAACP Image Award for Outstanding Actor in a Television Movie, Mini-Series or Dramatic Special, NAACP Image Award – Hall of Fame Award, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Medal Spingarn, Black Filmmakers Hall of Fame, Gwobr Paul Robeson, Commandeur des Arts et des Lettres, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Silver Bear, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Cymdeithas Academi BAFTA, Silver Bear, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami, Gwobr 'silver seashell' am actor goray, Audie Award for Narration by the Author or Authors, Coretta Scott King Award ![]() |
Roedd Sidney L. Poitier KBE (/ˈpwɑːtjeɪ/; 20 Chwefror 1927 – 6 Ionawr 2022)[1] yn actor Bahamaidd-Americanaidd, cyfarwyddwr ffilm, actifydd, a llysgennad. Ym 1964, enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau, gan ddod yr actor du cyntaf i ennill y wobr. [2] Derbyniodd ddau enwebiad Gwobr Academi arall, deg enwebiad Golden Globe, dau enwebiad Gwobrau Primetime Emmy, chwe enwebiad BAFTA, wyth enwebiad Laurel, ac un enwebiad Gwobrau Screen Actors Guild. Ar farwolaeth Kirk Douglas yn 2020, daeth Poitier yn un o'r sêr mawr olaf i oroesi o Oes Aur sinema Hollywood, ac enillydd Gwobr Academi gwrywaidd hynaf a chynharaf sydd wedi goroesi. Rhwng 1997 a 2007, gwasanaethodd Poitier fel Llysgennad Y Bahamas i Japan. [3]
Cafodd Sidney L. Poitier ei eni yn Miami, UDA, fel yr ieuengaf o saith o blant,[4] yn fab i Evelyn (g. Outten) a Reginald James Poitier, ffermwyr Bahamaidd. Bu Reginald hefyd yn gweithio fel gyrrwr cab yn Nassau, Bahamas. [5] Cafodd Poitier ei fagu yn y Bahamas, a oedd ar y pryd yn drefedigaeth y Goron Brydeinig. Oherwydd fe'i ganwyd (yn annisgwyl) yn yr Unol Daleithiau, roedd ganddo hawl awtomatig i ddinasyddiaeth UDA.[6]