Gwin cadarn yw sieri (Sbaeneg: Jerez neu Xeres, Saesneg: sherry) wedi'i wneud o rawnwin gwyn sy'n cael eu tyfu ger dinas Jerez de la Frontera yn Andalusia, Sbaen. Cynhyrchir sieri mewn amrywiaeth o arddulliau a wneir yn bennaf o rawnwin Palomino, yn amrywio o fersiynau ysgafn tebyg i winoedd gwin y bwrdd, fel Manzanilla a Fino, i fersiynau tywyllach a thrymach y caniatawyd iddynt ocsideiddio wrth iddynt heneiddio mewn casgen, megis Amontillado ac Oloroso. Cynhyrchir hefyd gwin melys o rawnwin Pedro Ximenez neu Moscatel, ac weithiau caiff eu cymysgu â sieri Palomino.
Mae'r gair "sieri" yn tarddu o Gymreigio'r gair Saesneg "Sherry"; sydd ei hun yn tarddu o Seisnigeiddio Xeres neu Jerez. Roedd sieri arfer cael ei alw'n sack. Yn Ewrop, mae gan sieri 'statws enw tarddiad gwarchodedig', ac o dan gyfraith Sbaen, rhaid yn gyfreithiol i holl win sydd wedi'i labelu'n "sieri" ddod o'r Driongl Sieri, ardal yn nhalaith Cádiz rhwng Jerez de la Frontera, Sanlúcar de Barrameda, ac El Puerto de Santa María.[1] Yn 1933 denominación de origen Jerez oedd yr un cyntaf i'w adnabod o dan gyfraith Sbaen, a elwir y DO Jerez-Xeres-Sherry.
Ar ôl gorffen eplesu caiff y gwinoedd sylfaen eu cyfnerthu â gwirod grawnwin er mwyn cynyddu eu cynnwys alcohol terfynol.[2] Mae gwinoedd megis Fino a Manzanilla yn cael eu cyfnerthu nes eu bod yn cyrraedd cyfanswm cynnwys alcohol o 15.5%. Wrth iddynt heneiddio mewn casgen, maent yn datblygu haen o fflor - twf tebyg i furum sy'n helpu amddiffyn y gwin rhag gormod o ocsideiddio. Mae gwinoedd megis Oloroso yn cael cyfnerthu nes eu bod yn cyrraedd cyfanswm o leiaf 17%. Nid ydynt yn datblygu fflor ac felly maent yn ocsideiddio ychydig wrth iddynt heneiddio, yn rhoi lliw tywyllach iddynt. Gan fod y cyfnerthu'n digwydd ar ôl yr eplesu, mae'r mwyafrif o sieri yn sych i ddechrau, gydag unrhyw felyster yn cael ei ychwanegu'n ddiweddarach. Mewn cyferbyniad, mae gwinoedd port cael eu cyfnerthu hanner ffordd trwy'r eplesiad, sy'n atal y broses fel nad yw'r holl siwgr yn cael ei droi'n alcohol.
Ystyrir sieri gan nifer o awduron gwin[3] fel "heb ei werthfawrogi"[4] ac yn "drysor gwin wedi'i esgeuluso".[5]