![]() | |
![]() | |
Math | talaith India ![]() |
---|---|
Prifddinas | Gangtok ![]() |
Poblogaeth | 657,876 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Pawan Kumar Chamling, Prem Singh Tamang ![]() |
Cylchfa amser | UTC+05:30 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | India ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 7,096 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Gorllewin Bengal ![]() |
Cyfesurynnau | 27.55°N 88.5°E ![]() |
IN-SK ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Council of Ministers of Sikkim ![]() |
Corff deddfwriaethol | Sikkim Legislative Assembly ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Shriniwas Dadasaheb Patil, Lakshman Acharya ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Sikkim ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Pawan Kumar Chamling, Prem Singh Tamang ![]() |
![]() | |
Talaith yng ngogledd-ddwyrain India, rhwng Nepal a Bhwtan, sy'n rhannu ffin â Tibet yn y gogledd a Rhanbarth Darjeeling yn y de, yw Sikkim neu Sicim.[1] Arwynebedd tir 7214 km². Ystyr yr enw Sikkim yw "Y Tŷ Newydd"; yr enw Tibeteg arni yw Denjong, sef "Cwm Reis". Gangtok (poblogaeth 82,00) yw'r brifddinas.
Allan o'r boblogaeth o tua 500,000 mae 70% yn Nepalwyr, tua 15% yn Lepchiaid a 10% yn Bhutiaid. Nepaleg yw prif iaith y dalaith; mae Saesneg yn cael ei defnyddio fel iaith swyddogol ar gyfer gweinyddiaeth ac fe siaredir hefyd Tibeteg, yr iaith Bhutia a Lepcha, yn ogystal â Bengaleg a Hindi. Hindŵaeth (60%) a Bwdhiaeth (28%) yw'r prif grefyddau. Mae gan y dalaith senedd un siambr gyda rheolaeth ar faterion mewnol a llywodraeth daleithiol a arweinir gan brif weinidog. Mae'r wlad yn cael ei rheoli ers degawdau gan y Sikkim National Democratic Front; mae'r ychydig wrthbleidiau'n fychan a dibwys. Mae economi y dalaith yn seiliedig ar amaethyddiaeth, coedwigaeth, twristiaeth a diwydiant ysgafn.