Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Rachel Carson |
Cyhoeddwr | Houghton Mifflin Harcourt |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg America |
Dyddiad cyhoeddi | 27 Medi 1962 |
Genre | traethawd |
Prif bwnc | amgylchedd, DDT |
Llyfr ffeithiol gan y biolegydd Rachel Carson yw Silent Spring ("Gwanwyn Distaw") a gyhoeddwyd ar 27 Medi 1962. Mae'r llyfr yn disgrifio'r niwed amgylcheddol a achosir gan y defnydd diwahân o DDT a phlaladdwyr eraill. Cyfeirir at y llyfr yn aml fel man cychwyn y mudiad amgylcheddol byd-eang ac un o lyfrau mwyaf dylanwadol yr 20g.
Dangosodd Carson fod y diwydiant cemegol yn yr Unol Daleithiau wedi lledaenu gwybodaeth anghywir, a chyhuddodd swyddogion cyhoeddus o dderbyn heb feirniadaeth honiadau'r diwydiant fod cemegau o'r fath yn ddiogel. Daeth y llyfr â phryderon amgylcheddol i sylw'r cyhoedd yn America. Er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn y cwmnïau cemegol, fe wnaeth y llyfr ddylanwadu ar farn y cyhoedd ac arwain at wrthdroi polisi plaladdwyr yr Unol Daleithiau, a gwaharddiad cenedlaethol ar DDT at ddefnydd amaethyddol,