Cyfnod Silwraidd 443.7–416 miliwn o flynyddoedd yn ôl | |
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr | ca. 14 Cyfaint %[1] (70 % o lefel a geir heddiw) |
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr | ca. 4500 rhan / miliwn[2] (16 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol)) |
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb | ca. 17 °C[3] (3 °C uwch na'r lefel heddiw) |
Lefel y môr (yn uwch na heddiw) | Tua 180m[4] |
Cyfnod daearegol a ddechreuoedd tua 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac y daeth i ben tua 443.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl yw'r Cyfnod Silwraidd. Roedd yn dilyn y Cyfnod Ordofigaidd a daeth y Cyfnod Defonaidd ar ôl y Cyfnod Silwraidd. Mae'n gyfnod a welodd ddifodiant 60% o anifeiliaid a phlanhigion môr.
Disgrifiodd y daearegydd Syr Roderick Murchison y Cyfnod Silwraidd am y tro cyntaf pan gyhoeddodd y llyfr The Silurian System ym 1839, ar ôl gweld creigiau yn Nhraethau Marloes, De Cymru. Enwyd y Cyfnod ar ôl y Silwriaid, llwyth Celtaidd a oedd yn byw yn yr ardal.
Yn ystod y Cyfnod Silwraidd roedd Uwchgyfandir Gondwana yn dal i fod yn y de, ond ffurfiodd y cyfandiroedd eraill yr Uwchgyfandir mawr Laurasia.
Cwrelau a brachiopodau yw'r ffosilau a geir mewn creigiau o'r Cyfnod Silwraidd.