![]() | |
Enghraifft o: | iaith naturiol, iaith fyw ![]() |
---|---|
Math | Insular Indo-Aryan ![]() |
Enw brodorol | සිංහල භාෂාව ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | si ![]() |
cod ISO 639-2 | sin ![]() |
cod ISO 639-3 | sin ![]() |
Gwladwriaeth | Sri Lanca ![]() |
System ysgrifennu | Sinhala ![]() |
![]() |
Iaith Indo-Ariaidd yw Sinhaleg neu Sinhala (සිංහල) a siaredir yn bennaf gan y Sinhaliaid yn Sri Lanca. Ysgrifennir yr iaith yn yr wyddor Sinhaleg, sef ffurf ar yr wyddor Frahmig, a ddarllener o'r chwith i'r dde.
Dygwyd iaith lafar y Prakrit i Sri Lanca yn y 5g CC mae'n debyg, gan ymfudwyr o ogledd India. Datblygodd y Sinhaleg felly ymhell o'r ieithoedd Indo-Ariaidd eraill yng ngogledd India, a daeth i gynnwys nifer fawr o fenthyceiriau o'r ieithoedd Drafidaidd, yn enwedig Tamileg, prif iaith arall Sri Lanca. Mae'r arysgrifau cynharaf yn yr iaith, mewn llythrennau Brahmig ar garreg, yn dyddio oddeutu 200 CC.[2]
Prif dafodieithoedd y Sinhaleg yw iaith y cefn gwlad, iaith yr iseldiroedd, a Sinhaleg Jaffna yn y gogledd. Sinhaleg a Thamileg ydy dwy iaith swyddogol Sri Lanca.