Sioe dalent

Perfformiad gweledol byw (weithiau ar y teledu) lle mae'r cystadleuwyr yn actio, canu, dawnsio, gwneud acrobateg a mathau eraill o gelfyddyd yw sioe dalent. Mae sioeau talentau wedi bodoli ers dechrau amser. Mae rhai o'r gweithiau cynharaf yn cynnwys dramâu Shakesperaidd a gynhaliwyd mewn cwrtiau er mwyn i'r gymuned eu mwynhau.

Yn ddiweddar, mae sioeau talentau wedi datblygu i fod yn ffurf amlwg o deledu realiti. Mae sioeau megis Pop Idol, American Idol, The X Factor, Britain's Got Talent ac America's Got Talent wedi dod yn hynod boblogaidd, gyda rhai o'r cystadleuwyr yn dod yn enwog o ganlyniad. Fodd bynnag, un o ragflaenwyr y sioeau hyn oedd Star Search ac Amateur Night at the Apollo. Y dyddiau yma, mae nifer o wefannau yn darlledu sioeau talentau lleol ar y , er enghraifft Atlanta Talent TV, ond yn enwedig ar wefannau cynnal fideos fel YouTube.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne