Sir an-fetropolitan

Math o ardal llywodraeth leol yn Lloegr yw sir an-fetropolitan (Saesneg: non-metropolitan county). Mae siroedd an-fetropolitan yn rhan o system dwy haen o lywodraeth leol sy'n gweithredu yn y rhan fwyaf o Loegr.

Rhennir pob sir an-fetropolitan yn nifer o ardaloedd an-fetropolitan, gan rannu pŵer a chyfrifoldeb gyda nhw.

Mae'r sir yn gyfrifol am wasanaethau mwyaf a drutaf, megis:

  • addysg
  • gwasanaethau cymdeithasol
  • prif ffyrdd
  • llyfrgelloedd
  • trafnidiaeth gyhoeddus
  • gwasanaethau tân
  • Safonau Masnach
  • gwaredu gwastraff
  • cynllunio strategol

tra bod ardaloedd an-fetropolitan yn darparu gwasanaethau, megis:

  • cynllunio lleol a rheoli adeiladau
  • tai cyngor
  • ffyrdd lleol
  • iechyd yr amgylchedd
  • marchnadoedd a ffeiriau
  • casglu ac ailgylchu sbwriel
  • mynwentydd ac amlosgfeydd
  • parciau
  • gwasanaethau hamdden
  • twristiaeth

Crëwyd y system ddwy haen hon yn 1974 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Mae rhan fwyaf o siroedd an-fetropolitan enwau sy'n cyfateb i enwau siroedd seremonïol, ac mae'n bwysig peidio â chymysgu'r naill â'r llall, gan eu bod yn amlach na pheidio yn cyfeirio at wahanol ardaloedd daearyddol, oherwydd bod mwyafrif y siroedd seremonïol yn cynnwys awdurdodau unedol sy'n annibynnol ar y sir an-fetropolitan.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne