![]() | |
Arwyddair | UTRIQUE FIDELIS ![]() |
---|---|
Math | prif ardal ![]() |
Prifddinas | Brynbuga ![]() |
Poblogaeth | 94,142 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 849.088 km² ![]() |
Gerllaw | Afon Hafren, Afon Gwy ![]() |
Yn ffinio gyda | Swydd Henffordd, Ardal Fforest y Ddena, Blaenau Gwent, De Swydd Gaerloyw, Casnewydd, Dinas Bryste, Swydd Gaerloyw, Powys, Torfaen ![]() |
Cyfesurynnau | 51.78°N 2.87°W ![]() |
Cod SYG | W06000021 ![]() |
GB-MON ![]() | |
![]() | |
Sir yn ne-ddwyrain Cymru yw Sir Fynwy (Saesneg: Monmouthshire) a grewyd wrth ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996. Roedd yr hen Sir Fynwy yn un o'r tair sir ar ddeg yng Nghymru a ddilëwyd gan adrefnu llywodraeth leol yn 1974. Rhwng 1974 a 1996 bu'r ardal yn rhan o sir Gwent. Trefynwy, ar Afon Mynwy, yw prif dref a chanolfan weinyddol y sir. Mae'r sir yn cynrychioli pen deheuol Cymru yn yr hen ddywediad "O Fôn i Fynwy" (h.y. 'Cymru benbaladr'). Llywodraethir y sir gan Gyngor Sir Fynwy, sydd â'i bencadlys yn nhref Brynbuga.