Enghraifft o: | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Daeth i ben | 18 Tachwedd 1885 |
Dechrau/Sefydlu | 8 Rhagfyr 1832 |
Rhagflaenydd | Carmarthenshire |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Rhanbarth | Cymru |
Roedd Sir Gaerfyrddin yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin Senedd y Deyrnas Unedig o 1542 hyd ei ddiddymu ym 1885. Roedd y sir yn dychwelyd un Aelod Seneddol hyd at 1832 pan ychwanegwyd ail gynrychiolydd.
Ym 1885 rhannwyd yr etholaeth yn ddwy sedd un aelod sef, Gorllewin Caerfyrddin a Dwyrain Caerfyrddin.
Un o etholiadau mwyaf nodedig yr etholaeth oedd Lecsiwn Fawr 1802 lle fu Syr James Hamlyn Williams yn sefyll ar ran y Torïaid a William Paxton ar ran y Chwigiaid. Gwarrwyd ffortiwn gan y naill ochor a'r llall i geisio sicrhau'r fuddugoliaeth[1]. Amcangyfrifir bod Paxton wedi gwario £15,690 ar golli'r frwydr (gwerth tua £15.5 miliwn, yn ôl cymhariaeth cyflogau, yn 2018).[2] Yn ôl traddodiad y fro adeiladwyd Tŵr Paxton ger Llanarthne fel prawf bod digonedd o arian ar ôl gan Paxton er gwaetha'r maint a afradwyd ar y Lecsiwn Fawr.