![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Swale |
Gefeilldref/i | Ieper ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caint (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.34°N 0.74°E ![]() |
Cod OS | TQ905635 ![]() |
![]() | |
Tref ddiwydiannol yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, ydy Sittingbourne.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Swale.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Sittingbourne poblogaeth o 48,948.[2]
Saif y dref wrth ymyl Stryd Watling, trac hynafol a ddefnyddir gan y Rhufeiniaid, ac wrth ymyl y Swale, stribyn o'r môr sy'n gwahanu tir mawr Caint oddi wrth Ynys Sheppey. Nid oes unrhyw gofnod o'r lle yn Llyfr Dydd y Farn (1086), ond mae'n cael ei grybwyll fel man aros i bererinion rhwng Llundain a Chaergaint yn The Canterbury Tales (diwedd y 14g) gan Geoffrey Chaucer. Parhaodd y dref i fod yn arhosfan ar y ffordd o Lundain i borthladdoedd ar arfordir y Môr Udd hyd nes i'r rheilffordd ddod yn 1858. Ar ôl hynny datblygodd fel canolfan ddiwydiannol, gan gynhyrchu briciau a phapur.