Six (sioe gerdd)

Sioe gerdd Brydeinig yw Six, gyda stori, cerddoriaeth a geiriau gan Toby Marlow a Lucy Moss.[1] Mae'r sioe yn ailadroddiad modern o fywydau chwe gwraig Harri VIII wedi ei gyflwyno fel cyngerdd pop, wrth i'r gwragedd gymryd eu tro yn canu ac adrodd eu stori i weld pwy ddioddefodd fwyaf oherwydd Harri ac felly pwy ddylai ddod yn brif leisydd y grŵp.

Cyflwynwyd y sioe gerdd yn gyntaf gan fyfyrwyr Prifysgol Caergrawnt yng Ngŵyl Caeredin yn 2017. Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i gynyrchiadau proffesiynol yn y West End ac yn rhyngwladol.

  1. "Marking her-story: SIX announces UK tour and West End run". Official London Theatre. Cyrchwyd 2018-11-06.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne