![]() | |
Math | safle archaeolegol, anheddiad dynol ![]() |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Calon Ynysoedd Erch Neolithig ![]() |
Sir | Ynysoedd Erch ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 0.5 ha, 1,620 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 59.048714°N 3.34175°W ![]() |
Cyfnod daearegol | Oes Newydd y Cerrig ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Gweddillion pentref Neolithig ar Ynysoedd Erch yn yr Alban yw Skara Brae. Saif ar arfordir gorllewinol ynys Mainland.
Credir fod y pentref yn cael ei ddefnyddio yn y cyfnod 3100-2500 CC. Yn ddiweddarach, gorchuddiwyd adfeilion y tai gan dywod, ac ni chafwyd hyd iddynt eto hyd y 1850au. Bu cloddio archaeolegol yma dan Gordon Childe rhwng 1928 a 1930. Gan nad oedd fawr o goed ar Ynysoedd Erch, adeiladwyd popeth o gerrig, yn cynnwys y dodrefn.
Gyda Maes Howe, Meini Stenness a Cylch Brodgar, mae Skara Brae yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd a ddynodwyd gan UNESCO yn 1999 dan yr enw Calon Ynysoedd Erch Neolithig. Rheolir y safle gan Historic Scotland.