Soffocles | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 496 CC ![]() Colonus ![]() |
Bu farw | Atene, Athen ![]() |
Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd ![]() |
Galwedigaeth | awdur trasiediau, dramodydd, llenor, offeiriad, gwleidydd ![]() |
Adnabyddus am | Oedipus Rex, Oidipos yn Colonos, Antigone, Philoctetes, Ajax, Electra, Trachiniae, Ichneutae ![]() |
Arddull | Greek tragedy ![]() |
Plant | Iophon, Ariston ![]() |
Dramodydd Groegaidd oedd Soffocles neu Sophocles (Groeg: Σοφοκλής) (ca. 495 CC–406 CC). Roedd yn un o dri trasiedydd mawr Athen, gyda Aeschylus ac Euripides. Mae saith o'i ddramâu wedi goroesi; yr enwocaf yw'r gyfres o dair drama am Oedipus ac Antigone.
Ganed ef yn Colonus Hippius yn Attica, ychydig o flynyddoedd cyn Brwydr Marathon, er bod yr union flwyddyn yn ansicr. Bu'n flaenllaw ym mywyd cyhoeddus Athen yn ogystal â bod yn ddramodydd.