Sojourner Truth | |
---|---|
Ffugenw | Sojourner Truth |
Ganwyd | Isabella Baumfree c. 1797 Hurley |
Bu farw | 26 Tachwedd 1883 Battle Creek |
Man preswyl | Battle Creek |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | amddiffynnwr hawliau dynol, diddymwr caethwasiaeth, ymgyrchydd dros hawliau merched, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Menywod Michigan |
Gwefan | https://sojournertruthmemorial.org |
Cefnogwr diddymu caethwasiaeth a hawliau merched o dras Americanaidd Affricanaidd oedd Sojourner Truth (tua 1797). Ganwyd hi'n gaethwas yn Swartekill, Efrog Newydd, ond dihangodd gyda'i merch fach i ryddid ym 1826. Ar ôl mynd i'r llys i gael ei mab yn ôl, hi oedd y fenyw ddu gyntaf i ennill achos o'r fath yn erbyn dyn gwyn. Cafodd y llysenw Isabella ("Bell") Baumfree pan anwyd hi ond cymerodd hi'r enw Sojourner Truth arni ym 1843. Rhoddodd ei haraith o'r frest fwyaf adnabyddus ar anghydraddoldeb ar sail rhyw, Ain't I a Woman?, ym 1851 yng Nghymanfa Hawliau Merched Ohio yn Akron. Yn ystod Rhyfel Cartref America, roedd Truth yn helpu i recriwtio milwyr duon ym Myddin yr Undeb ac ar ôl y rhyfel, buodd hi'n aflwyddiannus yn ceisio sicrhau grantiau tir gan lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau ar gyfer cyn-gaethweision.
Yn 2014, ychwanegodd cylchgrawn y Smithsonian Truth i restr o'r 100 Americanwr mwyaf arwyddocaol erioed.[1]