Mae'r term Somalia Fawr (yn Somalieg Soomaaliweyn; Arabeg: الصومال الكبير) yn cyfeirio at y rhanbarthau hynny ar Gorn Affrica lle mae Somaliaid yn byw.[1] Mae'n freuddwyd sy'n cynnwys uno gwladwriaeth gyfoes Somalia, Jibwti (cyn-drefedigaeth Ffrengig sy'n Somali o ran cenedligrwydd) gogledd-ddwyrain Cenia ac Ogaden, rhanbarth ddwyreiniol o Ethiopia sy'n ffinio â Somalia.
Yn hanesyddol mae'n cyfeirio at greu tiriogaeth (a oedd yn bodoli am ychydig fisoedd yn unig rhwng 1940 a 1941) a oedd yn cynnwys yr holl ardaloedd lle'r oedd Somaliaid yn byw ar adeg ffasgaeth.