Sorbiaid

Sorbiaid
Enghraifft o:grŵp ethnig Edit this on Wikidata
MamiaithSorbeg uchel, sorbeg isel, sorbeg edit this on wikidata
Poblogaeth60,000 Edit this on Wikidata
CrefyddCatholigiaeth, protestaniaeth edit this on wikidata
Rhan oSlafiaid Gorllewinol Edit this on Wikidata
LleoliadLusatia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp ethnig o Slafiaid Gorllewinol yn byw yn nwyrain yr Almaen yw'r Sorbiaid. Mae tua 60,000 ohonynt i gyd, yn byw yn nhaleithiau Sacsoni a Brandenburg, mewn ardal tua 80 km i'r de-ddwyrain o ddinas Berlin.

Mae ganddynt ei hiaith eu hunain, Sorbeg, sy'n cael ei rhannu yn ddwy dafodiaith, neu efallai ddwy iaith wahanol, Sorbeg Uchaf a Sorbeg Isaf. Mae tua 30,000 o siaradwyr yr iaith.

Ystyrir fod y Sorbiaid yn weddillion y pobl Slafonig oedd yn byw yn yr ardal rhwng afon Elbe ac afon Oder ganrifoedd yn ôl. Hen enw arnynt oedd y Wendiaid, ond ystyrir yr enw yma yn annerbyniol bellach.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne