![]() | |
Math | stadiwm bêl-droed ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 22 Gorffennaf 2009 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Caerdydd ![]() |
Sir | Caerdydd ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Cyfesurynnau | 51.47278°N 3.20306°W ![]() |
Rheolir gan | C.P.D. Dinas Caerdydd ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | C.P.D. Dinas Caerdydd ![]() |
Maes chwaraeon 26,828 sedd yn ardal Lecwydd, Caerdydd, yw Stadiwm Dinas Caerdydd (Saesneg: Cardiff City Stadium). Mae'n gartref i dîm pêl-droed Ddinas Caerdydd a thîm pêl-droed Cymru. Bu tîm rygbi Gleision Caerdydd yn chwarae eu gemau cartref yno hefyd rhwng 2009 a 2012.[1] Ar ôl Stadiwm y Mileniwm, dyma'r ail stadiwm fwyaf yng Nghymru. Agorwyd y stadiwm yn swyddogol ar 22 Gorffennaf 2009 gyda gêm gyfeillgar rhwng Dinas Caerdydd a Celtic.