![]() | |
Math | hen faes chwaraeon, cyn-adeilad ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 28 Ebrill 1923 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wembley ![]() |
Sir | Brent ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5556°N 0.2797°W ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Wembley National Stadium Ltd ![]() |
Roedd y Stadiwm Wembley gwreiddiol (a adnabyddir hefyd fel Stadiwm yr Ymerodraeth) yn stadiwm bêl-droed ym Mharc Wembley, Llundain, a oedd yn sefyll ar yr un safle a'i olynydd.[1]
Cynhaliwyd rownd derfynol Cwpan Lloegr yn Wembley yn flynyddol o 1923, yn ogystal â rownd derfynol Chwpan Cynghrair Lloegr yn flynyddol. Hefyd, cynhlaiwyd pum rownd derfynol Cwpan Ewrop, rownd derfynol Cwpan y Byd 1966, a rownd derfynol Ewro 96. Ymysg y campau eraill a gafodd eu cynnal yno mae Gemau Olympaidd yr Haf 1948, rownd derfynol Cwpan Her rygbi'r gynghrair, a Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair 1992 a 1995 . Cafodd nifer o ddigwyddiadau cerddorol eu cynnal yno hefyd, gan gynnwys cyngerdd elusennol Live Aid ym 1985.
Torrwyd tywarchen gyntaf y stadiwm gan y Brenin Siôr V, ac fe’i hagorwyd gyntaf i’r cyhoedd ar 28 Ebrill 1923. Trawsnewidiwyd llawer o dirwedd wreiddiol Parc Wembley Humphry Repton ym 1922–23 yn ystod paratoadau ar gyfer Arddangosfa Ymerodraeth Prydain 1924–25. Fe'i gelwid yn gyntaf yn Stadiwm Arddangosfa'r Ymerodraeth Brydeinig [2] neu'n syml yn Stadiwm yr Ymerodraeth, ac fe'i hadeiladwyd gan Syr Robert McAlpine gyfer Arddangosfa'r Ymerodraeth Brydeinig [3] ym 1924 (wedi'i ymestyn i 1925). [4] [5] [6] [7]
Costiodd y stadiwm £750,000 ac fe'i hadeiladwyd ar safle ffoledd cynharach o'r enw Watkin's Tower. Y penseiri oedd Syr John Simpson a Maxwell Ayrton a'r prif beiriannydd Syr Owen Williams. Y bwriad yn wreiddiol oedd dymchwel y stadiwm ar ddiwedd yr Arddangosfa, ond fe’i hachubwyd ar awgrym Syr James Stevenson, Albanwr a oedd yn gadeirydd y pwyllgor trefnu ar gyfer Arddangosfa'r Ymerodraeth. Defnyddiwyd y maes ar gyfer pêl-droed mor gynnar â'r 1880au [8]
Ar ddiwedd yr arddangosfa, dechreuodd entrepreneur o'r enw Arthur Elvin (a ddaeth yn Syr Arthur Elvin yn ddiweddarach) brynu'r adeiladau adfail fesul un, a'u dymchwel a gwerthu'r sgrap. Roedd y stadiwm wedi mynd i ddwylo'r derbynnydd ar ôl penderfynu ei fod yn "anhyfyw yn ariannol".[9] Cynigiodd Elvin brynu'r stadiwm am £127,000, gan roi blaendal o £12,000 a thalu'r balans ynghyd â'r llog a oedd yn daladwy dros ddeng mlynedd.[10]