Enghraifft o: | cyfres deledu, Star Trek series |
---|---|
Crëwr | Akiva Goldsman, Michael Chabon, Kirsten Beyer, Alex Kurtzman |
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Rhan o | canon Star Trek |
Dechreuwyd | 23 Ionawr 2020 |
Daeth i ben | 20 Ebrill 2023 |
Genre | cyfres deledu ffuglen wyddonol |
Cymeriadau | Jean-Luc Picard, William Riker, Seven of Nine, Deanna Troi, Data, Cristóbal Rios, Agnes Jurati, Dahj Asha, Soji Asha, Sutra, Narek, Elnor, Altan Inigo Soong, Raffi Musiker, Hugh, Narissa Rizzo, Kestra Troi-Riker, Oh, Icheb, Laris, Zhaban, Kirsten Clancy, Ramdha, Number One, Arcana, Saga, Jack Crusher |
Yn cynnwys | Star Trek: Picard, season 1, Star Trek: Picard, season 2, Star Trek: Picard, season 3 |
Lleoliad y gwaith | Prime Universe, Earth |
Cyfarwyddwr | Hanelle Culpepper, Jonathan Frakes |
Cynhyrchydd/wyr | Patrick Stewart, Michael Chabon, Akiva Goldsman, Alex Kurtzman |
Cwmni cynhyrchu | CBS, Secret Hideout, Weed Road Pictures, CBS Studios |
Dosbarthydd | CBS Media Ventures, Amazon Prime Video |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Gwefan | https://intl.startrek.com/shows/star-trek-picard, https://www.paramountplus.com/shows/star-trek-picard/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfres deledu gwe o'r Unol Daleithiau yw Star Trek: Picard a grëwyd ar gyfer CBS All Access gan Kirsten Beyer, Akiva Goldsman, Michael Chabon ac Alex Kurtzman. Dyma'r wythfed gyfres yn masnachfraint Star Trek ac mae'n canolbwyntio ar y cymeriad Jean-Luc Picard. Mae'n cymryd lle ar ddiwedd y 24ain ganrif, 18 mlynedd ar ôl digwyddiadau Star Trek: Nemesis (2002), ac mae'r stori yn cael ei ddylanwadu gan farwolaeth yr android Data yn Nemesis. Mae dinistriad Romulus sy'n digwydd yn y ffilm Star Trek yn rhan o hanes, a lleoliad y sioe.
Patrick Stewart yw cynhyrchydd gweithredol y gyfres ac mae'n serennu fel Picard, gan ail-afael yn ei rôl o Star Trek: The Next Generation yn ogystal â'r ffilmiau Star Trek. Mae Santiago Cabrera, Michelle Hurd, Evan Evagora, Alison Pill, Harry Treadaway, ac Isa Briones hefyd yn serennu. Mae sawl actor o gyfresi blaenorol Star Trek hefyd yn ail-gymeryd eu rhannau, gan gynnwys Brent Spiner, Jeri Ryan, Marina Sirtis, a Jonathan Frakes.[1] Daeth sïon am y gyfres i ddechrau ym mis Mehefin 2018 pan ddechreuodd Kurtzman ei waith yn ehangu'r masnachfraint, ac fe'i gyhoeddwyd yn swyddogol ym mis Awst ar ôl misoedd o drafodaethau gyda Stewart, a oedd wedi dweud o'r blaen na fyddai'n dychwelyd i'r fasnachfraint ar ôl Nemesis. Dechreuodd y ffilmio yng Nghaliffornia ym mis Ebrill 2019, gyda theitl swyddogol y gyfres yn cael ei gyhoeddi fis yn ddiweddarach.
Cyflwynwyd Star Trek: Picard am y tro cyntaf ar 23 Ionawr 2020, 12:00am (PST) a bydd ei dymor cyntaf yn cynnwys deg pennod. Cyn y bennod gyntaf, adnewyddwyd Star Trek: Picard gan CBS All Access am ail dymor o 10 pennod.