Stephen Gately | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mawrth 1976 Dulyn |
Bu farw | 10 Hydref 2009 o edema ysgyfeiniol, Andratx |
Label recordio | Polydor Records |
Dinasyddiaeth | Gwyddel |
Galwedigaeth | actor, canwr, dawnsiwr, cyfansoddwr caneuon, awdur plant, actor llwyfan, canwr-gyfansoddwr, actor ffilm |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, Eurodance |
Math o lais | tenor |
Gwefan | http://www.stephengately.co.uk/ |
Canwr, cyfansoddwr ac actor o Iwerddon oedd Stephen Patrick David Gately (17 Mawrth 1976 – 10 Hydref 2009). Ar y cyd gyda Ronan Keating, ef oedd un o ddau prif leisydd y band Boyzone. Aeth pob un o albymau stiwdio'r band i rif un yn y Deyrnas Unedig, gyda'u trydydd albwm sef yr un olaf fwyaf llwyddiannus yn rhyngwladol. Gyda Boyzone, aeth un ar bymtheg o senglau Gately yn syth i mewn i'r pump uchaf yn Siart Senglau'r Deyrnas Unedig. Perfformiodd gerbron miliynau o gefnogwyr yn fyd-eang. Ar ôl i'r band wahanu, rhyddhaodd albwm solo llwyddiannus yn 2000 a aeth i'r Deg Uchaf yn y Deyrnas Unedig a aeth tair o'i senglau i'r siart, gan gynnwys y gân "New Beginning" a aeth i rif 3 yn y siart. Wedi hyn, parhaodd Gately i berfformio mewn nifer o gynhyrchiadau llwyfan ac ymddangosodd ar amryw o raglenni teledu, yn ogystal â chyfrannu traciau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Yn 2008, ail-ymunodd â Boyzone am gyfres o recordiadau a chyngherddau.
Priododd Gately Andrew Coles, yn gyntaf mewn seremoni ymroddiad yn Las Vegas yn 2003 ac yna mewn seremoni partneriaeth sifil yn Llundain yn 2006. Ym 1999, Gately oedd un o'r ser pop cyntaf i ddod allan fel dyn hoyw. Pan ail-ffurfiwyd y band Boyzone, ymddangosodd Gately fel un o'r cyplau hoyw cyntaf i ymddangos mewn fideo cerddorol, ar gyfer y gân "Better".