Steve Jones (biolegydd)

Steve Jones
GanwydJohn Stephen Jones Edit this on Wikidata
24 Mawrth 1944 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Man preswylCamden Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth, Doethuriaeth mewn Gwyddoniaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Bryan Clarke Edit this on Wikidata
Galwedigaethgenetegydd, academydd, gwyddonydd, cyflwynydd teledu, athro cadeiriol, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodNorma Percy Edit this on Wikidata
Gwobr/auSeciwlarydd y Flwyddyn, Medal Trichanrif Linnean, Gwobr Llyfr y Byd Naturiol, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
Eicon y Prosiect Genome

Biolegydd ac awdur o Gymru yw Steve Jones (ganwyd 24 Mawrth 1944).

Ganwyd Steve Jones yn Aberystwyth, a bu ym Mhrifysgol Caeredin a Phrifysgol Chicago cyn cael ei benodi'n Athro Geneteg yng Ngholeg y Brifysgol Llundain ac yn bennaeth labordy enwog Galton.

Ym 1996 enillodd Fedal Faraday y Gymdeithas Frenhinol am ehangu gwybodaeth y cyhoedd mewn geneteg ac esblygiad. Dros y blynyddoedd mae wedi cyflwyno'r maes hwn yn syml iawn i bobol gyffredin. Darwin, mae'n debyg yw ei arwr mawr ac mae wedi ysgrifennu am esblygiad.

Yn ei lyfr The Descent of Men mae'n croniclo dirywiad cyflwr y cromosom 'Y' ac yn dangos sut (yn ei farn ef) mae'r rhyw gwryw am ddod i ben ymhen rhai miloedd o flynyddoedd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne