Stewart Bevan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 10 Mawrth 1948 ![]() St Pancras ![]() |
Bu farw | 20 Chwefror 2022 ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | actor, actor teledu ![]() |
Actor o Loegr o dras Gymreig oedd Stewart John Llewellyn Bevan (10 Mawrth 1948 – Chwefror 2022),[1] sy'n fwyaf adnabyddus am ei berfformiadau ym myd ffilm a theledu, yn gynnwys y rôl Clifford Jones yn Doctor Who (1973).[2] Am rai blynyddoedd roedd yn gariad i'r actores Katy Manning, a chwaraeodd Jo yn Doctor Who.
Ganwyd Bevan i deulu Cymreig yn St Pancras, Llundain, a treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Southall, Middlesex. Ar ôl cofrestru yn Ysgol Theatr Corona aeth i glyweliad ar gyfer rhan bach fel bachgen ysgol yn ei arddegau ar gyfer y ffilm To Sir, With Love.[3]