Ffuglen greadigol ar ffurf darn o ryddiaith cymharol fyr yw stori fer. Mae'n fyrrach na nofel ond mae ei hyd yn gallu amrywio o sawl paragraff yn unig i ddegau o dudalennau. Ar ôl y nofel, mae'r stori fer yn un o'r ffurfiau ffuglen mwyaf poblogaidd.
Anodd diffinio'r stori fer yn derfynol, ond mae ganddi sawl nodwedd arbennig fel ffurf lenyddol.