Math | tref, tref farchnad ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Cotswold |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerloyw (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.928°N 1.718°W ![]() |
Cod OS | SP191258 ![]() |
Cod post | GL54 ![]() |
![]() | |
Tref farchnad a phlwyf sifil yn Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr yw Stow-on-the-Wold.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Cotswold.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,042.[2]
Saif ar ben bryn 800 troedfedd (244 metr) ar groesffordd bwysig yn ardal y Cotswolds; mae'r ffyrdd hyn yn cynnwys y Ffordd Fosse gynhanesyddol (A429). Sefydlwyd y dref fel canolfan farchnad yng nghyfnod y Normaniaid. Cynhelir ffeiriau dan siarter frenhinol ers 1330 a cheir ffair ceffylau flynyddol ar ymyl y dref.
Mae Caerdydd 112.2 km i ffwrdd o Stow-on-the-Wold ac mae Llundain yn 120.3 km. Y ddinas agosaf ydy Caerloyw sy'n 36.6 km i ffwrdd.