Person o dan straen yn y gweithle | |
Math | straen, perygl seicolegol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae straen yn y gwaith yn straen seicolegol sy'n gysylltiedig â swydd ac sy'n cyfeirio at gyflwr cronig. Gellir rheoli straen yn y gwaith trwy ddeall beth yw'r amodau dirdynnol yn y gwaith a chymryd camau i adfer y cyflyrau hynny.[1]
Gall straen ddigwydd pan nad yw'r gweithiwr yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi gan reolwyr neu gydweithwyr, gan deimlo nad oes ganddynt lawer o reolaeth dros y gwaith y maent yn ei wneud, neu'n canfod bod eu hymdrechion yn y swydd yn anghymesur â gwobrau'r swydd.[2] Mae straen galwedigaethol yn bryder i weithwyr a chyflogwyr oherwydd bod amodau swydd llawn straen yn gysylltiedig â lles emosiynol, iechyd corfforol a pherfformiad gweithwyr. Canfu astudiaeth bwysig a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd a’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol mai gweithio oriau hir yw’r ffactor risg galwedigaethol gyda’r baich afiechyd mwyaf. Yn ôl amcangyfrifon swyddogol yr astudiaeth achosodd amcangyfrif o 745,000 o weithwyr i farw o glefyd y galon isgemia a strôc yn 2016.[3] Yn ôl ystadegau blynyddol a gyhoeddwyd gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch prif achos straen, iselder a gorbryder yn y gweithle yw llwyth gwaith.[4]
Mae gan ferched gyfraddau sylweddol uwch o straen, iselder a gorbryder yn y gweithle rhwng 2015 a 2018 gyda 1,950 bob 100,000 i’w gymharu â 1,370 i ddynion.[4]
Mae nifer o ddisgyblaethau o fewn seicoleg yn ymwneud â straen galwedigaethol gan gynnwys seicoleg iechyd galwedigaethol, [5] ffactorau dynol ac ergonomeg, epidemioleg, meddygaeth alwedigaethol, cymdeithaseg, seicoleg ddiwydiannol a threfniadol, a pheirianneg ddiwydiannol .