![]() | |
Math | tref, bwrdeistref fach ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 10,320 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Inch ![]() |
Sir | Dumfries a Galloway ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 54.9014°N 5.035°W ![]() |
Cod SYG | S20000302, S19000331 ![]() |
Cod OS | NX059606 ![]() |
![]() | |
Tref a phorthladd yn awdurdod unedol Dumfries a Galloway, yr Alban, yw Stranraer[1] (Gaeleg yr Alban: An t-Sròn Reamhar;[2] Sgoteg: Stranrawer).[3]
Y ddinas agosaf ydy Glasgow sy'n 118 km i ffwrdd.
Mae Stranraer yn gorwedd ar gilfach môr Loch Ryan. I'r gorllewin mae bryniau isel hir Rinnau Galloway (Rinns of Galloway) yn ei chysgodi. Mae priffyrdd yn cysylltu'r dref â Girvan ac Ayr i'r gogledd a Newton Stewart a Dumfries i'r dwyrain. O'r porthladd mae gwasanaethau llong fferi yn cysytllu'r dref a Belffast, Gogledd Iwerddon. O borthladd Cairnryan, ar lan Loch Ryan tua 5 milltir o'r dref, mae gwasanaeth fferi arall yn rhedeg i Larne, Gogledd Iwerddon. Dyma ganolfan weinyddol Gorllewin Galloway.[4]
Tua 6 milltir i'r de-ddwyrain o Stranraer ceir pentref Dunragit a Rhos Dunragit. Credir fod yr enw Dunragit yn tarddu o'r enw Din Reged ("Caer Reged") a oedd yn ganolfan bwysig yn nheyrnas Rheged, un o deyrnasoedd Brythonaidd yr Hen Ogledd.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Stranraer boblogaeth o 10,590.[5]