Eglwys y Drindod Sanctaidd, Street | |
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Mendip |
Poblogaeth | 12,712 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad yr Haf |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.1235°N 2.7381°W |
Cod SYG | E04008589 |
Cod OS | ST483363 |
Cod post | BA16 |
Pentref a phlwyf sifil yng Ngwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, ydy Street. Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd gan y pentref boblogaeth o 11,805. Fe'i leolwyd ar ddiwedd Bryniau Polden, 3.2 km (2 filltir) i'r de-orllewin o Glastonbury ('Ynys Wydrin' mewn Hen Gymraeg).
Ceir tystiolaeth fod y Rhufeiniaid wedi setlo yma am gyfnod. Gerllaw, saif Abaty Glastonbury, a fu'n drwm ei ddylanwad ar yr ardal, tan diddymu'r mynachlogydd yn nheyrnasiad y brenin Harri VIII, brenin Lloegr. Daw'r enw o ffordd a ddefnyddiwyd i gludo Carreg Lias oddi yma yn y 12g er mwyn adfer yr abaty; cyn hynny gelwid y pentref yn Lantokay a Lega.