Mwynwyr Tyldesley tu allan Neuadd y Mwynwyr yn ystod y streic | |
Enghraifft o: | Streic gyffredinol |
---|---|
Dechreuwyd | 4 Mai 1926 |
Daeth i ben | 13 Mai 1926 |
Lleoliad | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Streic gyffredinol a barodd am naw niwrnod, o 4 Mai, 1926 tan 13 Mai, 1926 oedd Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926. Galwyd y streic gan gyngor cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) mewn ymgais aflwyddiannus i orfodi llywodraeth Prydain i weithredu er mwyn atal lleihau cyflogau ac i wella amodau gwaith glöwyr. Bu i oddeutu 1.7 miliwn o weithwyr streicio, yn enwedig yn y diwydiant cludiant a nwyddau trwm. Ond cyflogwyd nifer o wirfoddolwyr dosbarth canol i wneud y gwaith a chynnal lefel y gwasanaethau. Prin oedd y trais a welwyd a rhoddodd y TUC y ffidil yn y to. Yn y tymor hir, ni chafodd y streic fawr o effaith ar weithgaredd yr undebau llafur na diwydiant.