Sugababes

Sugababes
Enghraifft o:band Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Label recordioLondon Records, Island Records, RCA Records, Interscope Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1998 Edit this on Wikidata
Dod i ben2011 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1998 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, cyfoes R&B, electropop, cerddoriaeth ddawns Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSiobhán Donaghy, Mutya Buena, Keisha Buchanan, Heidi Range, Amelle Berrabah, Jade Ewen Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.sugababes.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp pop merched o Loegr ydy Sugababes. Cafodd y grŵp ei sefydlu yn 1998 gan Keisha Buchanan, Mutya Buena a Siobhan Donaghy. Ymadawodd Donaghy y grŵp yn 2001 a daeth Heidi Range, cyn aelod o'r grŵp Atomic Kitten. Gadawodd Buena y grŵp yn 2005 a daeth Amelle Berrabah yn ei lle. Mae'r grŵp yn cael ei gysidro fel y grŵp merched mwyaf llwyddiannus yn Ewrop ers Spice Girls ac maent wedi cael eu henwi yn yr act fenywaidd mwyaf llwyddiannus yr unfed ganrif ar hugain gan y BBC. Mae chwech o'u caneuon wedi cyrraedd rhif un yn siartiau'r DU, dau albwm wedi cyrraedd rhif un yn siartiau albwm y DU, a pedwar albwm arall wedi cyrraedd y "top 10". Maent hefyd wedi llwyddo i gael senglau rhif un mewn mwy na 10 gwlad arall o amgylch y byd, yn cynnwys Seland Newydd, Awstria a Gwlad Pŵyl. Yn 2009, disodlwyd Buchanan o achos roedd gwrthdaro rhyngddi hi a'r aelodau eraill, Berrabah a Range. Daeth Jade Ewen, sy'n enwog am ei pherfformiad yn y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2009, yn lle Buchanan.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne