Enghraifft o: | dydd gŵyl Cristnogol, gŵyl symudol |
---|---|
Rhagflaenwyd gan | Sulgwyn |
Enw brodorol | Dominica Trinitatis |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sul y Drindod yw'r dydd Sul cyntaf ar ôl y Sulgwyn yng nghalendr litwrgaidd Cristnogol y Gorllewin, ond yn Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol fe'i dathlir ar y Sulgwyn ei hun. Mae Sul y Drindod yn dathlu athrawiaeth Gristnogol y Drindod, sef tri Pherson y Duwdod: y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân.
Mae Sul y Drindod yn cael ei ddathlu yn holl eglwysi litwrgaidd y Gorllewin, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr Eglwys Anglicanaidd, yr Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys Bresbyteraidd.