![]() | |
Enghraifft o: | Kryptonian, cymeriad mewn comic, cymeriad animeiddiedig, cymeriad teledu, cymeriad ffilm, cymeriad llenyddol ![]() |
---|---|
Crëwr | Jerry Siegel, Joe Shuster ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1938 ![]() |
Aelod o'r canlynol | Justice League, Legion of Super-Heroes, Supermen of America, Black Lantern Corps, White Lantern Corps, Daily Planet, Justice League Beyond ![]() |
Gwefan | https://www.dccomics.com/characters/superman ![]() |
![]() |
Archarwr comics DC yw Superman. Crëwyd gan yr awdur Jerry Siegel a'r arlunydd Joseph Shuster ac ymddangosodd yn gyntaf yn rhifyn cyntaf y llyfr Action Comics ym mis Mehefin 1938. Addaswyd y cymeriad ar gyfer radio, stribedi papurau newydd, rhaglenni teledu, ffilmiau, a gemau fideo. Un o gymeriadau comic enwocaf a mwyaf llwyddiannus y byd yw Superman, a helpodd i greu archdeip yr archarwr Americanaidd a rhoi iddo'r lle blaenaf yn llyfrau comics yr Unol Daleithiau.[1] Adwaenir y cymeriad hefyd gan yr enwau Man of Steel (y Dyn Dur), Man of Tomorrow (Dyn Yfory), a Last Son of Krypton (Mab Olaf Krypton).[2]
Ganwyd Superman ar y blaned Krypton, a Kal-El yw ei enw brodorol. Yn ôl hanes ei darddiad, cafodd ei ddanfon i'r Ddaear ar roced gan ei dad Jor-El, cyn i Krypton gael ei dinistrio. Glaniodd yn Kansas a chafodd ei chanfod a'i fabwysiadu gan ffermwr a'i wraig, a rodd yr enw Clark Kent iddo a'i fagu'n fachgen gweithgar a moesol. Yn ystod ei blentyndod a'i lencyndod dechreuodd ddangos ei alluoedd goruwchddynol. Pan dyfodd yn ddyn, penderfynodd i ddefnyddio'i rymoedd er budd y ddynolryw dan gochl yr hunaniaeth Superman.
Trigai Superman yn y ddinas Americanaidd ffuglennol Metropolis. Dan yr enw Clark Kent, mae'n gweithio fel newyddiadurwr ar gyfer papur newydd y Daily Planet. Gan amlaf, Lois Lane yw ei gariad a'r dyn drwg Lex Luthor yw ei elyn pennaf. Aelod o dîm archarwyr y Justice League yw Superman, a gweithia'n aml gyda Batman a Wonder Woman. Fel nifer o gymeriadau eraill ym Myd DC, darlunir nifer wahanol bortreadau o Superman.
Golwg nodweddiadol sydd gan Superman: gwisg las gydag arwyddlun coch a melyn ar ei frest, sy'n dangos y llythyren "S" tu mewn i darian, a chlogyn goch. Defnyddir y darian mewn amryw o gyfryngau i symboleiddio'r cymeriad. Gwelir Superman yn eicon diwylliannol Americanaidd.[1][3][4][5] Ymdrinia nifer o ysgolheigion â dylanwad y cymeriad, a chaiff ei astudio a'i drafod gan ddamcaniaethwyr, sylwebwyr, a beirniaid diwylliannol. Bu statws perchenogaeth y cymeriad yn bwnc dadl: ceisiodd Siegel a Shuster ddwywaith i erlyn DC Comics am ddychwelyd yr hawliau. Addaswyd y cymeriad mewn masnachfraint eang o gyfryngau, megis ffilmiau, rhaglenni teledu, a gemau fideo. Portreadir Superman gan nifer o actorion gan gynnwys Kirk Alyn, George Reeves, Christopher Reeve, Dean Cain, Tom Welling, Brandon Routh, Henry Cavill, a Tyler Hoechlin.