Susan Williams-Ellis | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mehefin 1918 Guildford |
Bu farw | 26 Tachwedd 2007 Portmeirion |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | seramegydd, person busnes |
Cyflogwr | |
Tad | Clough Williams-Ellis |
Mam | Amabel Williams-Ellis |
Priod | Euan Cooper-Willis |
Plant | Robin Llywelyn, Anwyl Cooper-Willis, Menna Angharad Cooper-Willis, Sian Cwper Cooper-Willis, Robert Llwelyn Cooper-Willis |
Dylunydd crochenwaith oedd Susan Williams-Ellis (6 Mehefin 1918 – 26 Tachwedd 2007). Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am sefydlu cwmni Crochenwaith Portmeirion.[1]
Cafodd ei geni yn Guildford, Lloegr, yn nhŷ'r arlunydd Roger Fry. Hi oedd merch hynaf y pensaer Clough Williams-Ellis a'i wraig, Amabel (ganwyd Amabel Strachey). Cafodd ei haddysg yn Ysgol Neuadd Dartington ac Ysgol Celf Chelsea. Dechreuodd hi a'i gŵr cyntaf, Euan, reoli'r siop ym Mhortmeirion ym 1953. Sefydlodd y crochenwaith ym 1960.