Sven-Bertil Taube | |
---|---|
Ganwyd | 24 Tachwedd 1934 Stockholm |
Bu farw | 11 Tachwedd 2022 Llundain |
Label recordio | Folkways Records |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Galwedigaeth | actor, canwr, actor llwyfan, actor ffilm |
Arddull | canu gwerin |
Tad | Evert Taube |
Mam | Astri Taube |
Priod | Ann Zacharias, Inger Taube |
Plant | Sascha Zacharias, Jesper Taube |
Llinach | Taube family |
Gwobr/au | Medal Diwylliant ac Addysg, Cornelis Vreeswijk scholarship |
Canwr ac actor o Sweden oedd Sven-Bertil Gunnar Evert Taube (24 Tachwedd 1934 – 11 Tachwedd 2022), sy'n fwyaf adnabyddus am ei yrfa actio rhyngwladol.
Cafodd ei eni yn Stockholm,[1] yn fab i'r cyfansoddwr caneuon Evert Taube [2] a'r cerflunydd Astri Taube. Yn 14 oed, dechreuodd Taube chwarae gitâr.[3] Roedd e'n teithio ledled Ewrop, a datblygodd ddiddordeb mewn llên gwerin a cherddoriaeth werin. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frenhinol Beskow yn Stockholm. Wedyn astudiodd yn Ysgol Cherry Lawn yn Connecticut, UDA.[4] Tra oedd yn fyfyriwr yn yr ysgol, gwnaeth ef albwm o ganeuon gwerin Sweden. [5] Ym 1969, symudodd Taube i Lundain ym 1969. [6]
Bu Taube yn briod bedair gwaith, a bu iddo bedwar o blant. Perthynai i gangen ddi-deitl o deulu bonheddig Baltig yr Almaen Taube, a gyflwynwyd yn Nhŷ Uchelwyr Sweden yn 1668 fel teulu bonheddig Rhif 734. [7] Chwaraeodd Taube ran Henrik Vanger yn y ffilm The Girl with the Dragon Tattoo, a roedd e'n seren y ffilm 1970 Puppet on a Chain . Bu farw yn Llundain, Lloegr, yn 87 oed.[8][9][10]