![]() | |
![]() | |
Math | tref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Dorset (awdurdod unedol) |
Poblogaeth | 9,426 ![]() |
Gefeilldref/i | Rüdesheim am Rhein ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dorset (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 50.61°N 1.96°W ![]() |
Cod SYG | E04003483 ![]() |
Cod OS | SZ0278 ![]() |
Cod post | BH19 ![]() |
![]() | |
Tref fach a phlwyf sifil ar arfordir de-ddwyrain sir seremonïol Dorset, De-orllewin Lloegr, ydy Swanage.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Dorset. Saif ar ben dwyreiniol Ynys Purbeck, tua 10 km i'r de o Poole a 40 km i'r dwyrain o Dorchester.
Roedd poblogaeth o 10,124 yn y dref yn 2001. Mae Caerdydd 129 km i ffwrdd o Swanage ac mae Llundain yn 165 km. Y ddinas agosaf ydy Southampton sy'n 53.1 km i ffwrdd.
Porthladd a phentref pysgota bychain oedd Swanage i gychwyn, a and fishing village ffynnodd yn oes Fictoria, pan ddaeth yn borthladd chwarelu pwysig, ac yn ddiweddarach yn gyrchfan twristiaeth glan-môr ar gyfer y cyfoethog. Twristiaeth yw prif diwydiant Swanage hyd heddiw, a miloedd o ymwelwyr yn dod i'r dref yn ystod yr haf, yn cael eu denu gan draethau da ac atyniadau eraill.
Yn ystod ei hanes, mae'r bae wedi cael amryw o enwau, Swanawic, Swanwich, Sandwich, a dim ond yn ddiweddar daeth i'w adnabod fel Swanage.
Lleolir y dref ar ben dwyreiniol yr Arfordir Jwrasig, sy'n Safle Treftadaeth y Byd.