Math | dinas, metropolis, dinas fawr, y ddinas fwyaf, prifddinas y dalaith, dinas global, canolfan ariannol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Thomas Townshend |
Poblogaeth | 4,840,600 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+10:00 |
Gefeilldref/i | San Francisco, Hakkâri, Nagoya, Dinas Wellington, Guangzhou, Fflorens, Portsmouth, Milan, Islamabad, Dili, Delhi Newydd, Manila, Dinas Mecsico, Seoul |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Awstralia |
Arwynebedd | 12,144.6 km² |
Uwch y môr | 6 metr |
Gerllaw | Afon Parramatta |
Cyfesurynnau | 33.8678°S 151.21°E |
Cod post | 2000 |
Dinas hynaf a fwyaf poblog Awstralia ac Oceania yw Sydney (anaml y gelwir Sidney yn Gymraeg;[1] prifddinas talaith De Cymru Newydd.[2] Dharugeg: Gadi) Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, roedd y boblogaeth yn 5,367,206 yn 2020. Tyfodd y ddinas oddeutu bae Porth Jackson ac fe'i lleolir ar arfordir dwyreiniol Awstralia ar lan y Cefnfor Tawel. Mae'r ddinas fetropolis, ehangach yn 70 km (43.5 mi).
Mae'n ganolfan fasnachol, ddiwydiannol a diwylliannol a dyfodd o gwmpas ei phorthladd a chysylltir dwy ran y ddinas gan Bont Harbwr Sydney dros fae Port Jackson, pont rychwant unigol a godwyd yn 1932. Mae'r ddinas yn enwog am ei thŷ opera, a agorwyd yn 1973.
Digwyddodd rhuthr aur yn yr ardal ym 1851, a thros y ganrif nesaf, trawsnewidiodd Sydney o fod yn ardal drefedigaethol Brydeinig i fod yn ganolfan ddiwylliannol ac economaidd fyd-eang o bwys. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, profodd y ddinas lawer o fudo torfo, a daeth yn un o'r dinasoedd mwyaf amlddiwylliannol yn y byd.[3] Ar adeg cyfrifiad 2011, roedd mwy na 250 o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad yn Sydney.[4] Yng Nghyfrifiad 2016, roedd tua 35.8% o'r preswylwyr yn siarad iaith heblaw Saesneg gartref.[5] Ar ben hynny, nododd 45.4% o'r boblogaeth eu bod wedi'u geni dramor, ac mae gan y ddinas y drydedd boblogaeth fwyaf o ddinasyddion a anwyd dramor - mwy nag unrhyw ddinas yn y byd ar ôl Llundain a Dinas Efrog Newydd.[6][7] Rhwng 1971 a 2018, collodd Sydney cyfanswm o 716,832 o bobl i weddill Awstralia[8] ond mae ei phoblogaeth wedi parhau i dyfu, yn bennaf oherwydd mewnfudo.