Gweriniaeth Syria ٱلْجُمْهُورِيَّةُ ٱلْعَرَبِيَّة ٱلْسُوْرِيَّة (Arabeg) Ynganiad: al-Jumhūriyya al-ʿArabiyya al-Sūriya | |
Math | gwlad, gwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir |
---|---|
Prifddinas | Damascus |
Poblogaeth | 23,865,423 |
Sefydlwyd | 14 Mai 1930 (Gweriniaeth) 24 Hydref 1945 (Annibyniaeth de jure) |
Anthem | Humat ad-Diyar |
Pennaeth llywodraeth | Mohammed al-Bashir |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Asia/Damascus |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia |
Arwynebedd | 185,180 ±1 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Twrci, Israel, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus |
Cyfesurynnau | 35.21667°N 38.58333°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Syria |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Pobl Syria |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Syria |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Syria |
Pennaeth y Llywodraeth | Mohammed al-Bashir |
Arian | Punt Syria |
Cyfartaledd plant | 2.95 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.577 |
Gwlad yng ngorllewin Asia, yn y Dwyrain Canol a'r Lefant yw Gweriniaeth Arabaidd Syria neu Syria (Arabeg: الجمهورية العربية السورية). Y gwledydd cyfagos yw Libanus i'r gorllewin, Israel i'r de-orllewin, Gwlad Iorddonen i'r de, Irac i'r dwyrain a Thwrci i'r gogledd. Fodd bynnag, mae'r anghydfod am union leoliad y ffin rhwng Syria ac Israel ac am Ucheldiroedd Golan heb ei ddatrys. Yn y gorllewin mae gan y wlad arfordir ar y Môr Canoldir. Y brifddinas yw Damascus, sy'n un o'r dinasoedd hynaf yn y byd.[1]
Roedd yr enw "Syria" yn cyfeirio'n hanesyddol at ranbarth ehangach a oedd, yn fras, yn gyfystyr â'r Lefant ac a elwir yn Arabeg fel Ash-Sham.[2] Yn ddaearyddol, mae'r wladwriaeth fodern yn cynnwys nifer o deyrnasoedd ac ymerodraethau hynafol, gan gynnwys gwareiddiad Eblan yn y 3ydd mileniwm CC.[3][4] Mae Damascus ac Aleppo yn ddinasoedd o arwyddocâd diwylliannol mawr. Damascus oedd cartref Califfiaeth Umayyad a phrifddinas daleithiol Swltaniaeth Mamluk yn yr Aifft.[5] Sefydlwyd gwladwriaeth fodern Syria yng nghanol yr 20g ar ôl canrifoedd o reolaeth yr Otomaniaid, fel Mandad Ffrengig. Enillodd annibyniaeth de jure fel gweriniaeth seneddol yn 1945 pan ddaeth Gweriniaeth Gyntaf Syria yn un o sylfaenwyr y Cenhedloedd Unedig, gweithred a ddaeth â Mandad Ffrainc i ben yn gyfreithiol. Aethmilwyr Ffrainc adref yn Ebrill 1946, gan roi annibyniaeth de facto i'r genedl.
Ers Gwanwyn Arabaidd 2011, mae Syria wedi bod mewn rhyfel cartref amlochrog gyda sawl gwlad yn cymryd rhan, gan arwain at argyfwng ffoaduriaid lle dadleoliwyd mwy na 6 miliwn o bobl o'r wlad. Ymyrrodd sawl gwlad ar ran gwahanol garfanau a oedd yn gwrthwynebu Islamiaeth. Yn hwyr yn 2024 cafwyd sawl ymosodiad (wedi eu harianu gan UDA a gwledydd y Gorllewin) at gipio Damascus a syrthiodd cyfundrefn Assad dros nos.[6]