T. H. White

T. H. White
FfugenwJames Aston Edit this on Wikidata
Ganwyd29 Mai 1906 Edit this on Wikidata
Mumbai Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ionawr 1964 Edit this on Wikidata
Piraeus Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, nofelydd, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Sword in the Stone Edit this on Wikidata
Arddullffantasi, nofel hanesyddol Edit this on Wikidata
Gwobr/auRetro Hugo Award for Best Novel Edit this on Wikidata

Nofelydd o Loegr oedd Terence Hanbury White (29 Mai 190617 Ionawr 1964). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gyfres o nofelau Arthuraidd, The Once and Future King.

Fe'i ganwyd yn Bombay (bellach Mumbai), India, i rieni Seisnig. Astudiodd yn Lloegr yng Ngholeg Cheltenham, Swydd Gaerloyw, a Choleg y Breninesau, Caergrawnt. Yng Nghaergrawnt ysgrifennodd draethawd ar Le Morte d'Arthur gan Thomas Malory, a graddiodd ym 1928 gyda gradd yn y Saesneg. Roedd yn athro yn Ysgol Stowe, Swydd Buckingham, am bedair blynedd. Ym 1936, gadawodd ei swydd a bu'n byw mewn bwthyn ciper gerllaw, lle ysgrifennodd, ac ymgymerodd â hela, heboca a physgota. Yn ystod y cyfnod hwn ailddarllenodd Le Morte d'Arthur, a dechreuodd ei fersiwn ei hun o stori'r Brenin Arthur, The Sword in the Stone. Ym 1939 symudodd i Swydd Meath, Iwerddon, lle treuliodd yr Ail Ryfel Byd. Ym 1946 symudodd i Alderney, Ynysoedd y Sianel, lle treuliodd weddill ei fywyd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne